Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Yr Ynys Ddu
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Rydym ni fel teulu wedi bod yn hoff o anturiaethau Tintin a'i gi bach gwyn ers blynyddoedd, ac yn ein ty ceir cyfrolau lliwgar Herge a'u darluniadau bywiog mewn sawl iaith. Gan fod y ferch saith mlwydd oed wrth ei bodd, erbyn hyn, yn darllen llyfrau cartwn ar ei phen ei hun, rwyf innau, fel rhiant, yn falch ei bod hi'n cael y cyfle i wneud hyn yn Gymraeg. Mae croeso mawr i'r bedwaredd gyfrol yng nghyfres newydd addasiadau Tintin, felly. Yn Yr Ynys Ddu mae Tintin a'i gi bach Milyn yn profi antur heb adael ynysoedd Prydain, gan deithio o Sussex yn ne Lloegr -- ble maent yn dystion i ddamwain awyren a'r peilat wedi diflannu -- i'r Alban, ble mae'r brodorion yn byw mewn ofn o fwystfil mawr sy'n lladd pawb a fydd yn glanio ar yr Ynys Ddu gyfagos. Rydym yn cyfarfod a'n hen ffrindiau y plismyn pendew - Parry-Williams a Williams-Parry, sy'n baglu o anffawd annisgwyliadwy i ddamwain ddoniol, gan geisio erlid a helpu Tintin bob yn ail. Mae Dr Muller, pennaeth mileinig criw rhyngwladol o ffugwyr arian sy'n gweithredu ar yr Ynys Ddu, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y gyfres. Ceir anturiaethau a helyntion ar drenau ac awyrennau yr holl ffordd i fyny i'r Alban, ble mae Tintin yn profi cyfeillgarwch y brodorion cyn mentro i'r ynys felltigedig i wynebu'r 'Bheist Mhor' du, blewog. A fydd e'n llwyddo yn erbyn y bwystfil a Dr Muller a'i debyg? A fydd Parry-Williams a Williams-Parry yn glanio'n saff, ar ol iddyn nhw brofi eu hantur ei hun mewn awyren fach? Ewch i ddarllen y llyfr i ddod o hyd i'r atebion! Marion Loffler Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
This title is unavailable for purchase as none of our regular suppliers have stock available. If you are the publisher, author or distributor for this item, please visit this link.

Back to top