Dyma'r teitl diweddaraf yn ein cyfres 'Alphaprint' ar gyfer plant
bach. Mae'r llyfr hwn a'r gyfres gyfan yn cynnwys tudalennau
cyffwrdd a theimlo, gyda thestun sy'n odli a darluniau cyfoes ac
arbennig, sy'n gyfuniad o olion bysedd a del-weddau graffeg.
Perthynas gydag eraill a chariad teuluol ydy canolbwynt y llyfr
hwn. Mae'r berthynas yma'n cael ei bortreadu trwy adrodd stori
pedwar anifail gwahanol. Llyfr cynnes a hapus sy'n siwr o ennyn
diddordeb plant bach mewn llyfrau a lluniau.
Bydd y teitl yma a’r gyfres gyfan yn addas ar gyfer teuluoedd,
ysgolion a chanolfannau meithrin a'r Cyfnod Sylfaen.
Mae'r teitlau eraill yn y gyfres yn cynnwys y teitlau canlynol:
Un, Dau, Tri - 1, 2, 3 - One, Two, Three
Anifeiliaid - Animals
Lliwiau - Colours
Cyw a'i Ffrindiau - Cyw and his Friends
*Cyhoeddwr: Atebol*
Ask a Question About this Product More... |