Y maen ystrydeb clywed nad ywn hiaith lafar gystal ag y bu, ond efallai mair tristwch pennaf yw bod nifer o eiriau a dywediadau tafodieithol ar fin cael eu colli am byth. Un o gymwynasau'r gyfres Llyfrau Llafar Gwlad yw cofnodi tafodiaith ar diwylliant a fu, ac y maer gyfrol hon yn ychwanegiad gwerthfawr ir casgliad. O Ffestiniog y daw Steffan ab Owain, awdur y gyfrol, ond fe ddaw'r cynnwys o ardaloedd ehangach. Fe'i rhennir yn ddeuddeg pennod syn cyfeirio at wahanol feysydd yn eu plith y mae bwyd a diod, dillad a gwisg, byd natur, lln gwerin ac enwau lleoedd. Dyma gyfrol unigryw gan ei bod yn cynnwys nifer o eiriau nad oes sn amdanynt yn yr un geiriadur. Y maer cofnodi yn ddifyr ac yn ddestlus (yn l trefn yr wyddor). Yn y bennod ar fwyd a diod ceir dywediadau megis 'gwledd Sin Cnap', sef Welsh rarebit; siencyn esmwyth sef bara wedi ei fwydo mewn dwr efo menyn, siwgwr a nytmeg; a strotyn sef te ar ben bara menyn a te coch. Te coch syn gywir, medd yr awdur, ac nid te du. Faint ohonoch wedyn a wyr beth yw pen-blwydd mwnci, neu beth am rhwd sychtwr? Wel, os ydir geiriau yn ddieithr i chi, fe fydd yn rhaid i chi brynur llyfr. Ac wrth ganfod ystyr y dywediadau hyn mi gewch eich cyfareddu, rwyn siwr, gan y bennod ar afiechydon a meddyginiaethau. Yn fynych yn y llyfr ceir darlun er mwyn egluror cynnwys yn well, ac fe geir yng nghefn y gyfrol restr o ffynonellau a llyfryddiaeth. Yn ei ragymadrodd, dywed Steffan ab Owain fod nifer or geiriau a geir yn y gyfrol yn berthnasol in byd ni heddiw a gwir pob gair. Ychwanega y gallai nifer or geiriau gyfoethogi ein sgyrsiau pob dydd. Peidied, da chi, bod ofn eu defnyddio, meddai, a dyna wers werthfawr i ni i gyd. Dim mwy o dwrw nac o daro i fi, felly bant fi i weithredu! Be ga i i swper, dwedwch asgwrn y bwmbel neu botes penradell? Sarah Down-Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Ask a Question About this Product More... |