Hen hac yw Robat Jones sydd wedi pasio'i sell by date. Bu'n
newyddiadurwr o fri, yn ôl ei farn ei hun. Ond nawr mae Robat Jones
ar y clwt. Ac fel pe na byddai hynny'n ddigon o ddarostyngiad,
caiff ei anfon ar gwrs ysgrifennu creadigol. Dyma nofel sydd yn
chwa o awel iach. Mae hi'n gyfoes, yn grafog, yn gwbl gredadwy ac
yn hynod ddarllenadwy. Fel hen hac fy hun, rwy'n adnabod Robat
Jones. Yn wir, fel un a fu'n gweithio mewn swyddfa newyddiadurol fe
wnes i ddod i adnabod sawl Robat Jones. Prin i mi ddarllen nofel
sydd mor driw i'n cyfnod ni. Mae Robat Jones yn llefarydd dros y
bobl fach. Mae'n ddyn blin. Ef yw numero uno y no hôpars. Gwelodd
drwy dwyll yr upturn in the economy. Gŵyr Robat ond yn rhy dda mai
Bust yw'r gair allweddol. Ac nid cyfeirio at Katie Price mae'r
awdur yn yr achos hwn. Mae Robat a'r criw cymysg a brith sydd o'i
gwmpas yn byw mewn byd o doriadau llym. Yn ganolog i'r stori mae
siop elusen, un o'r ychydig fusnesau sydd ar gynnydd yn y stryd
fawr. Yr un hen thema eto, meddech chi. Corbynista rhonc yn cwyno
tra bo'r economi ar i fyny. Yr un hen dôn gron. Na, mae Janice
Jones wedi creu clamp o gymeriad. Ac fel un a fu'n hen hac fy hun,
teimlais ar adegau fy mod i'n edrych mewn drych. I Robat, mae
cyfansoddiad cymdeithas yn gwbl ranedig. Ar un ochr mae Hefo. Ar yr
ochr arall mae Heb. Sut fydd y naill yn ystyried y llall? '...
diawliaid diog oeddan ni i gyd yn y bôn yn llygaid y bras o bres.'
Cryfder mawr y nofel i mi yw'r ddawn dweud. Mae'r arddull
dafodieithol yn llifo. Mae yma ddoniolwch. Mae yma eironi. Mae yma
wirionedd. Ac yn britho'r cyfan ceir idiomau hen a newydd. Dyma
elfen sy'n golledig ymhlith llawer o'n nofelwyr cyfoes. Idiomau yw
pupur a halen unrhyw wledd. Meddyliwch am ddisgrifio'r boom honedig
fel 'rhech pry bach'. A dyma i chi idiom arall wych, 'rhwng y
diafol a'i gynffon'. Rwyf wedi osgoi crynhoi rhediad y stori.
Hynny'n fwriadol am nad ydw i am ymyrryd â'ch boddhad wrth ei
darllen. Ond darllenwch hi'r diawliaid diog! Dyna ddywedai Robat. A
dyna ddywedaf innau. Mae'r broliant yn cloi gyda chwestiwn, 'Ai
Robat ydi gwrtharwr newydd y Gymru gyfoes?' Oes angen i mi
ateb?
*Lyn Ebenezer @ www.gwales.com*
Ask a Question About this Product More... |