Ar glawr blaen y gyfrol fach ddeniadol hon fe nodir mai’r hyn sydd
o fewn i’r cloriau yw ‘cerddi a darluniau am fagu plant’. A dyna’n
union a geir yma, gyda’r bardd John Emyr yn gyfrifol am y cerddi,
a’i ferch, Luned Aaron, sy’n fam i ddwy ferch fach, yn gyfrifol am
y darluniau. Ac mae cerddi a lluniau’r tad a’r ferch yn gyfuniad
hynod effeithiol a llwyddiannus ac yn gwneud cyfrol a fydd yn sicr
yn apelio at lawer. Gan fod y gyfrol mewn clawr caled hardd iawn,
byddai’n gwneud anrheg fach berffaith i’w rhoi i fam sy’n magu
baban neu blant ifanc, neu sy’n mynd i fod yn fam. Mae’r broliant
byr ar y clawr cefn yn crisialu mewn brawddeg gynnwys y gyfrol,
drwy ddweud mai ‘Munudau dros dro a ddethlir yma: profiadau cyntaf,
defodau teuluol a’r momentau gwerthfawr a rannwn gyda’n plant a’n
hwyrion’. Barn y Prifardd Robat Powell amdani yw ‘Mae’r gyfrol hon
yn gampwaith’. O droi at y cerddi fe welir mai cerddi byrion,
amrywiol sydd yma, a’r rheini ar fesurau caeth a rhydd. Mae yma
nifer o englynion crefftus, cywyddau byrion, cwpled cynganeddol ac
un englyn penfyr. Yn y mesurau rhydd ceir tribannau a nifer o
gerddi syml odledig. Credaf y byddai un neu ddau o’r darnau hyn,
megis ‘Camau Cyntaf’ a ‘Cestyll Tywod’, yn addas fel darnau llefaru
i blant ifanc. Mae John Emyr yn fardd adnabyddus ac mae crefft y
bardd i’w gweld yn glir yma, yn enwedig yn rhai o’r englynion.
Mae’r farddoniaeth yn synhwyrus a phriodol ac yn cydblethu’n dda
â’r llun sydd gyferbyn â phob cerdd. Mae Luned, y ferch, hefyd yn
enw cyfarwydd yn y byd celfyddydol, gyda’i gwaith wedi cael ei
arddangos, er enghraifft, yn y Safle Celf yn y Galeri, Caernarfon.
Yn ddiweddar cyhoeddodd gyfrol arall arbennig ar gyfer plant ifanc,
sef ABC Byd Natur, cyfrol a enillodd iddi wobr Tir na n-Og eleni.
Mae cryn amrywiaeth yn arddull y lluniau a geir yn Ennyd, gyda
rhai, yn enwedig y rhai ar ddechrau’r gyfrol, a naws annelwig,
rithiol iddynt, tra bo eraill yn fwy eglur a phendant. Maent i gyd
yn dangos dawn arbennig Luned fel arlunydd. Cyfrol fach i’w
thrysori, felly, lle mae’r cyfuniad o ddoniau’r tad a’r ferch yn
gweithio'n llwyddiannus iawn.
*John Meurig Edwards @ www.gwales.com*
Ask a Question About this Product More... |