Mae’r efeilliaid Ben a Sara’n gweithio i fudiad dirgel Gwyllt. Dr
Fisher, eu tad bedydd, sefydlodd y mudiad gwych hwn. Ar gais Dr
Fisher mae’r plant yn teithio dros y byd i helpu anifeiliaid
prin.
Ar gyfer eu tasg ddiweddaraf, mae Ben a Sara ar eu ffordd i
Fecsico. Yno mae perchennog parc môr wedi dympio dolffin ifanc ym
Môr y Caribî.
Dyw’r dolffin bach ddim yn gyfarwydd â byw yn y gwyllt. Rhaid i Ben
a Sara fynd i chwilio amdano, cyn iddo gael niwed. Ond mae storm ar
y ffordd ac mae’r môr yn beryglus iawn...
*Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch*
Ask a Question About this Product More... |