Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Cerddi Ffiaidd [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Mae Roald Dahl wedi tynnu ei bensil hud oi gas pensiliau, wedi ei miniogi, ac wedi rhoi swyn ar bapur yn ei ffordd unigryw ei hun unwaith eto. Yma, maer awdur penigamp yn troi sawl stori boblogaidd ben i waered, a throi cymeriadau diniwed i fod yn ddiawliaid mewn croen. Diolch i ddawn addasu Gwynne Williams, maer cerddi ffiaidd hyn yn gweithio hefyd yn Gymraeg a phob gair yn gwneud ei waith cystal geiriau Roald Dahl ei hun. Wrth ddarllen am hanes Sinderela, y Tri Mochyn Bach, Nia Ben Aur a'r Hugan Fach Goch, feddylion ni erioed mor wahanol allair straeon hyn fod petaen nhw'n magu tipyn o ddiawlineb ac wmff. Wyt tin barod am sioc? Bydd pob blaidd yn crynu yn ei sgidiau wrth ddarllen hanes yr Hugan Fach Goch. Dyma lodes gyfrwys ar y naw, ac un beryg wrth ddal gwn! Dydi Nia Ben Aur ddim yn angel o bell ffordd, a dydi Sinderela ddim am fodloni ar ryw lipryn o dywysog dwy a dime. Dyma gyfrol sy'n chwa o awyr iach ac yn un sy'n ysgiwio'r storau hud a lledrith cyfarwydd. Mae Roald Dahl, a Gwynne Williams yn ei dro, wedi gafael yn y cymeriadau hyn gerfydd eu diniweidrwydd ac wedi eu hysgwyd nes eu bod yn gymeriadau gwerth eu halen. Wedi'r cyfan, mae yna elfen o ddiawlineb ym mhob un ohonon ni, on'd oes? Llinos Griffin Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
This title is unavailable for purchase as none of our regular suppliers have stock available. If you are the publisher, author or distributor for this item, please visit this link.

Back to top