Dyma bedwar ugain tudalen llawn dop o wybodaeth a'r cyfan wedi'i gyflwyno'n lliwgar a deniadol. Mae'r lluniau'n drawiadol o dda, a dychrynllyd ar adegau er, rhaid i mi gydnabod bod lluniau fel hyn yn cael eu difetha drwy eu gosod ar draws plyg y tudalen. Mae'r lluniau yn mynd ni i fyd bychan bach y pryfetach gan ddatgelu manylion na all y llygaid eu gweld yn rhwydd. Mae rhan gyntaf y llyfr yn cyflwyno gwybodaeth fwy cyffredinol am y bygs a gwybodaeth am y mathau o bygs a geir. Ceir hefyd fanylion am y sgerbwd neu'r gragen allanol ac am adenydd rhai bygs. Sonnir am allu rhai ohonynt wrth neidio a rhai eraill wrth guddio oherwydd eu cuddliw. Yna, wedi cyflwyno gwybodaeth fwy cyffredinol, ceir manylion am rai creaduriaid penodol megis y morgrug, y gwenyn meirch a phryfaid genwair, heb sn am y cantroediaid. Mae'r gyfrol yn gyforiog o wybodaeth bwysig i'r gwyddonydd ifanc, ond ceir yma hefyd wybodaeth gyffredinol ddifyr iawn i'r darllenydd chwilfrydig. Mae'r awdur wedi plannu gwybodaeth o'r fath bron ar bob tudalen. Mae pedwar tudalen arbennig o ddiddorol, sef dau am y bygs sy'n bla, a dau am y bygs sy'n arwyr. Mae'r mosgito, ceiliog y rhedyn, chwilen Colorado a'r lleuen yn cael eu nodi fel pla, tra bod y cynrhonyn, y miltroed, y chwilen gorniog, y wenynen a'r fuwch goch gota yn arwyr am eu bod yn trin pob math o bydredd. Bygs yw 97% o greaduriaid y ddaear, sef creaduriaid heb asgwrn cefn, ac mae'r fath amrywiaeth yn cael ei hadlewyrchu yn y gyfrol liwgar hon. Tybed a wyddech chi y gall chwannen gathod neidio can gwaith ei huchder ei hun tipyn o naid! John Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Ask a Question About this Product More... |